OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1769 (Cy.196)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 drwy newid y diffiniad o “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn rheoliad 3(2) o'r rheoliadau hynny. Bydd gofynion y “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn newid o gwblhau cwrs hyfforddiant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gyflawni safonau penodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1769 (Cy.196)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 15 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 1 Medi 2011
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 135 a 145(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a
Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1
Medi 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
2. –(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(2) rhodder “gyrraedd y cyfryw safonau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cymeradwyo” yn lle’r geiriau “gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2011
([1]) 2002 p.32; diwygiwyd adran 135 gan Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158) a diwygiwyd adran 145 gan Atodlen 14 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18).
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 135 a 145 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
([3]) O.S. 2005/1227 (Cy.85) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2811 (Cy.238)) a Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S 2010/1142 (Cy.101)).